Trwyddedu Anifeiliaid Cymru

Am y datblygiadau diweddaraf o ran trwyddedu anifeiliaid yng Nghymru

Mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru wedi ennill Gwobr Arloeswr Lles Anifeiliaid yng Ngwobrau RSPCA PawPrints eleni

Yn gynharach yn y mis, roedd tîm Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn falch o glywed eu bod wedi ennill y Wobr Arloeswr Lles Anifeiliaid yng Ngwobrau nodedig RSPCA PawPrints eleni.

 

Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPCA bod y wobr wedi ei dyfarnu "am y gwaith gwych mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn ei wneud."

 

Aeth ymlaen i egluro bod "Trwyddedu Anifeiliaid Cymru wedi creu argraff arbennig ar y panel, gan fynd ati’n rhagweithiol i nodi a datblygu’r cyfleoedd o’r ddeddfwriaeth bresennol i wella lles anifeiliaid ymhellach. Mae'n amlwg bod Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn fodel arloesol a llwyddiannus. Nododd y panel gyflawniadau Trwyddedu Anifeiliaid Cymru ers ei sefydlu o ran darpariaeth gyson mewn amodau, archwiliadau a gorfodaeth, ac roeddynt yn teimlo bod y gwaith y mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn ei wneud yn newydd ac unigryw, sydd hefyd yn wirioneddol gwella lles anifeiliaid. O ganlyniad, penderfynodd y panel ddyfarnu Trwyddedu Anifeiliaid Cymru'r Wobr Arloeswr Lles Anifeiliaid. Mae'r wobr wir yn haeddiannol iawn a gobeithio eich bod chi a'r tîm yn hynod falch!"

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Bydd eich sesiwn yn dod i ben ymhen xx.xx. Ydych chi'n dymuno Parhau neu Allgofnodi
Bydd eich sesiwn yn dod i ben yn xx.xx
Parhau neu Allgofnodi